Hwb ariannol o £1m i helpu i wella diogelwch strydoedd De Cymru

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael, wedi llwyddo i sicrhau £980,212 o Gronfa Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref, sy’n cael ei fuddsoddi i wella diogelwch cymunedol yn Ne Cymru.

Bydd dinasoedd, trefi a phentrefi ledled De Cymru yn cael budd o oleuadau stryd gwell, uwchraddio Teledu Cylch Cyfyng, ac amrywiaeth o wahanol fentrau gyda’r nod o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau cymdogaethau a thrais yn erbyn menywod a merched mewn mannau cyhoeddus, a’u hatal.

Hwn yw’r pumed cais llwyddiannus a wnaed gan y Comisiynydd, ac mae’n ychwanegu at bron i £3m a sicrhawyd o Gronfa Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref ers iddi gael ei lansio yn 2020.

Mae tîm y Comisiynydd wedi gweithio’n agos gyda’r heddlu ac awdurdodau lleol i nodi meysydd o flaenoriaeth i fuddsoddi ynddynt cyn datblygu’r cynnig.
Bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

• Gwella goleuadau’r strydoedd ac uwchraddio Teledu Cylch Cyfyng ledled De Cymru
• Prynu drôn sy’n addas ar gyfer pob tywydd er mwyn helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
• Pecynnau Diogelwch Cartref ar gyfer preswylwyr sy’n agored i droseddau fel bwrgleriaeth a lladrata
• Ymyriadau ffisegol dylunio i atal troseddau mewn ardaloedd lle ceir ymddygiad gwrthgymdeithasol rheolaidd
• Cyflwyno marsialiaid stryd yr awdurdod lleol mewn ardaloedd problemus a nodwyd
• Gweithgarwch allgymorth i bobl ifanc
• Hyfforddiant ar ymyrryd ar gyfer y rhai sy’n bresennol

Dywedodd Comisiynydd, Alun Michael: “Rwy’n hynod falch ein bod wedi bod yn llwyddiannus yn ein cais diweddaraf. Rydym wedi gweithio’n agos gyda’n partneriaid i nodi achosion ein problemau lleol ac i sicrhau bod canlyniadau sylweddol yn sgil y buddsoddiadau hyn a fydd yn cael effaith hirdymor.

“Byddwn yn parhau i wrando ar ein cymunedau ac i weithio mewn partneriaeth i leihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n cael effaith ddinistriol ar fywydau dioddefwyr.”

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Emma Wools gyda Swyddog Heddlu yn Merthyr Tudful

Pobl ifanc yn cymryd rhan yn ein #SgwrsLleisiauIfanc

Aelodau o'r tîm sy'n derbyn gwobr Go Awards Wales.

Llwyddiant Gwobr Menter Gaffael Gydweithredol yng Ngwobrau Go Wales

Member of team at LGBTQ+ event

LGBTQ + Hanes Mis Siop Wybodaeth Un Stop