Dathlu prosiect ‘Camu i Chwaraeon’ yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2024!

Aelod o dîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Chamu i Chwaraeon yn dal y wobr a gafwyd yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2024.

Mae ‘Camu i Chwaraeon’ yn brosiect partneriaeth arloesol rhwng Chwaraeon Caerdydd, Prifysgol Met Caerdydd, a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru.

Nod y prosiect yw mynd i’r afael â throseddau ieuenctid drwy bŵer trawsnewidiol chwaraeon. Mae’r rhaglen yn defnyddio galluedd chwaraeon i feithrin newid cymdeithasol, gwella ymgysylltu â chymunedau, a helpu i atal troseddu ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Caiff y cyfranogwyr eu hatgyfeirio at raglenni 6-10 wythnos wedi’u teilwra i’w hanghenion, gan gynnig chwaraeon fel bocsio, crefftau ymladd cymysg, a hyfforddiant personol un i un.

Yn ddiweddar, enillodd y prosiect y wobr gategori ar gyfer Ymyrryd yn Gynnar, gan dynnu sylw at ei gyfraniad eithriadol at leihau troseddau ieuenctid ledled Cymru.

Llongyfarchiadau!

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Llun o'r Prif Arolygydd Prawf, aelodau o Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi a'r Hyb Oedolion Ifanc yn eu swyddfeydd yn ystod yr ymweliad.

Prif Arolygydd Prawf yn ymweld â De Cymru i dynnu sylw at Ymdrechion Cydweithredol!

Go Awards Logo

Enwebiad am Wobr!

Pobl ifanc yn cymryd rhan yn ein #SgwrsLleisiauIfanc