Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae ‘rygbi trefol’ yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i’r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ddiweddar.

Ymunodd ei Ddirprwy, Emma Wools, ag ef ar yr ymweliad a ddechreuodd â chyflwyniad i ‘rygbi trefol’ – brand newydd o hoff gamp y genedl sydd wedi cyfrannu at ostyngiad o 50% mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn rhai o ardaloedd.

Mae ‘TACKLE After Dark’ yn brosiect sy’n cael ei ariannu’n llawn gan y Comisiynydd ac yn gynnyrch partneriaeth rhwng tîm Plismona yn y Gymdogaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn Heddlu De Cymru, Cymorth i Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a’r Gweilch yn y Gymuned.

Mae’n lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy ymgysylltu â phobl ifanc ar nosweithiau tywyll yn y gaeaf mewn lleoedd fel meysydd parcio, lle mae grwpiau’n dueddol o ymgynnull.

Mae cannoedd o bobl ifanc wedi cymryd rhan yn y sesiynau wythnosol ers iddynt lansio ym mis Hydref.

Caiff y sesiynau hyn eu cynnal gan hyfforddwyr cymwys sy’n defnyddio rygbi i addysgu sgiliau bywyd hanfodol fel cyfathrebu, datrys problemau, gwneud penderfyniadau a rheoli amser â’r nod o feithrin hunan-barch ac annog y cyfranogwyr i wneud dewisiadau bywyd cadarnhaol.

Dywedodd y Comisiynydd, Alun Michael: “Yn aml iawn rydym yn siarad am bobl ifanc fel troseddwyr, ond yn aml y gwir yw mai nhw yw’r dioddefwyr y mae ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi effeithio arnynt. Mae er budd pawb i oresgyn hyn ac ymgysylltu â phobl ifanc a’u helpu.

“Rwy’n falch o allu ariannu dull mor gyfoes ac arloesol o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae chwaraeon yn ffordd wych o weithio gyda phobl ifanc ac mae’r bartneriaeth hon yn cyflwyno rygbi mewn ffordd sy’n hygyrch ac yn berthnasol i bawb, gan roi cyfle i’r sawl syn cymryd rhan ddatblygu fel unigolion ar yr un pryd.”

Image of the PCC on an engagement visit
Yn y llun o'r chwith i'r dde: Rhingyll Daniel Parry, Tîm Plismona yn y Gymdogaeth Pen-y-bont ar Ogwr, y Comisiynydd Alun Michael, y Dirprwy Gomisiynydd Emma Wools, Gemma Shore, Gweithiwr Ieuenctid Allgymorth, Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a Kyle Tucker, y Gweilch yn y Gymuned.

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
Beth Yw Eich Barn?

Lansio Ymgynghoriad Ar Gynllun Yr Heddlu A Throseddu

Beth sy'n pwysig i chi?

Lansio cynllun grant cymunedol ‘Dywedwch wrth Emma’

Emma Wools

Datganiad gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Emma Wools ar anhrefn diweddar