Y penwythnos diwethaf, aeth y Comisiynydd Emma Wools ac aelodau o’r tîm i Ddiwrnod Treftadaeth Ddiwylliannol Tsieineaidd a Gŵyl Cychod y Ddraig. Y digwyddiad hwn, a gynhaliwyd gan y Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru (CIWA) yn Amgueddfa Hanes Sain Ffagan, oedd y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu y bydd y Comisiynydd a’r tîm yn mynd iddynt dros yr haf.
Sefydliad elusennol yw’r Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru sy’n ymrwymedig i ddod â phreswylwyr Tsieineaidd yng Nghymru ynghyd, eu cefnogi a gwella eu bywydau, gan adeiladu Cymru fwy cynhwysol drwy ddulliau llawr gwlad a arweinir gan y gymuned.
Roedd y diwrnod o “chwerthin ac atgofion” yn ddathliad llawn hwyl o dreftadaeth ddiwylliannol Tsieineaidd i deulu a ffrindiau. Rhoddodd lwyfan i gymunedau ddod ynghyd a rhannu eu straeon personol â’i gilydd.
Dywedodd y Comisiynydd, Emma Wools: “Roedd hwn yn ddigwyddiad hyfryd ac yn gyfle gwych i siarad â phobl am y materion sy’n bwysig iddynt. Mae deall safbwyntiau a phrofiadau pobl yn rhan hanfodol o’m rôl, a bydd yn allweddol i lywio datblygiad Cynllun yr Heddlu a Throseddu dros y misoedd nesaf. Hoffwn ddiolch i’r Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru am ei hymroddiad i wella bywydau cymunedau Tsieineaidd yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at gydweithio â’r Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru er mwyn helpu i hyrwyddo cydlyniant cymunedol a meithrin cydberthnasau cadarnhaol â phreswylwyr Tsieineaidd yn Ne Cymru.”
Dysgu mwy am ddigwyddiadau ymgysylltu y byddwn yn mynd iddynt yn y dyfodol yma
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion