Codi Cymru | Arddangosfa a Chynhadledd Mae Bywydau Du o Bwys Cymru Race Council Cymru

Yn ddiweddar, aeth aelodau o dîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i Arddangosfa a Chynhadledd Mae Bywydau Du o Bwys Cymru Race Council Cymru, Codi Cymru, i gofnodi Diwrnod y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Gwahaniaethu ar sail Hil.

Mae’r pedwar Heddlu yng Nghymru yn darparu nawdd i Race Council Cymru er mwyn cefnogi ei waith ymgysylltu a’i ddigwyddiadau. Nod yr arddangosfa hon, a gynhaliwyd yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, oedd codi ymwybyddiaeth o anghyfiawnder hiliol, hyrwyddo deialog, ac annog newid cadarnhaol.

Cymerodd actifyddion ysbrydoledig, gweithwyr proffesiynol a’r cyn Brif Weinidog Mark Drakeford ran drwy arwain arddangosiadau treiddgar, cyfleoedd i rannu profiadau a gweithdai diddorol a oedd yn ystyried sut y gellid trechu hiliaeth systemig.

Ailbwysleisiodd y rhai a oedd yn bresennol eu hymrwymiad i wrth-hiliaeth ac i gyflawni Cymru ddi-hiliaeth erbyn 2030.

Rhoddodd yr ymweliad gyfle i’r tîm glywed am brofiadau pobl, trafod materion, a thynnu sylw at y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru.

I ddysgu mwy am y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru, ewch i wefan y Comisiynydd: Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru – Comisiynydd yr Heddlu a Throseddau (comisiynydddecymru.org.uk)

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
PCC with Foundation 4 Sport Cardiff staff members

Creu cyfleoedd cadarnhaol i bobl ifanc ledled Caerdydd

Llun o Comisiynydd gyda swyddogion heddlu ffyrdd

Cadw Cymunedau’n Ddiogel: Cipolwg y tu ôl i’r llenni gyda’r Uned Plismona Ffyrdd

Emma Wools at Cardiff City Football Club Community Foundation

Buddsoddi £125,000 i Ehangu’r Rhaglen “Premier League Kicks” i Gefnogi Pobl Ifanc Ledled De Cymru