Carreg filltir o’r 50fed tro i Heddlu De Cymru ddefnyddio gwrthgyffur naloxone trwynol sy’n achub bywydau

Defnyddiodd swyddogion a PCSOs Heddlu De Cymru y gwrthgyffur naloxone trwynol i achub bywyd am yr 50fed tro yr wythnos diwethaf.

Mae naloxone, gwrthgyffur brys ar gyfer gorddosau heroin a sylweddau opiaid neu opioid eraill, yn cael ei gario gan fwy na 500 o gydweithwyr, sydd wedi gwirfoddoli i wneud hynny.

Ar 22 Rhagfyr, cyrhaeddwyd carreg filltir o’r 50fed tro iddo gael ei ddefnyddio mewn ffordd gadarnhaol.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Stuart Johnson, swyddog arweiniol ar gyfer naloxone:

“Mae Heddlu De Cymru yn arwain y ffordd ar gyfer y defnydd o naloxone trwynol ac mae hyn yn rhywbeth y dylem fod yn falch ohono.

“Nid yw cyffuriau yn gwahaniaethu, ac rydym wedi llwyddo i helpu i achub bywydau 50 o unigolion, sydd wedi gallu dychwelyd adref at eu teuluoedd a’u ffrindiau.”

Mae naloxone yn gweithio drwy wrthdroi’r trafferthion anadlu a all ddatblygu gan orddos o’r sylweddau hyn, sy’n rhoi mwy o amser i’r gofal meddygol brys gyrraedd.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael:

“Mae cyffuriau yn cael effaith enfawr ar y rheini sy’n brwydro â chamddefnyddio sylweddau, eu teuluoedd a chymunedau cyfan, a dyna pam ein bod yn gweithio’n ddiflino gyda phartneriaid i fynd i’r afael â’r broblem mewn sawl ffordd wahanol.

“Wrth wneud hynny, mae’n bwysig cofio bod y rheini sy’n gaeth i gyffuriau yn aml yn ddioddefwyr eu hunain, a dyna pam mae mor bwysig ymyrryd ar y cyfle cynharaf posibl, cynnig cymorth effeithiol ac ymdrechu i dorri’r cylch niwed.”

PCC Alun Michael with life-saving nasal Naloxone kit
Comisiynydd Alun Michael gyda naloxone trwynol achub bywyd a ddefnyddir gan swyddogion

Y Diweddariadau Diweddaraf

Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'

Newyddion
PCC funded NHS Violence Prevention Teams celebrated at the Safer Communities Awards 2024!

Dathlu Timau Atal Trais y GIG sy’n cael eu hariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2024!

Dathlu rhaglen ‘Braver Choices’ sy'n cael ei hariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2024!

Dathlu rhaglen ‘Braver Choices’ sy’n cael ei hariannu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2024!

Aelod o dîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Chamu i Chwaraeon yn dal y wobr a gafwyd yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2024.

Dathlu prosiect ‘Camu i Chwaraeon’ yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2024!