Mae’r wythnos hon yn nodi blwyddyn ers marwolaeth drasig Kyrees Sullivan a Harvey Evans yn Nhrelái, Caerdydd, ac rydym yn meddwl am eu teuluoedd, eu ffrindiau a phawb yr effeithiwyd arnynt.
Datganiad gan Emma Woods, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru:
“Mae’r digwyddiad trasig yn Nhrelái flwyddyn yn ôl wedi gadael dau deulu yn galaru am eu hanwyliaid, a’r gymuned leol mewn sioc. Rwy’n parhau i feddwl am y teuluoedd hynny a phawb a gafodd eu heffeithio.
“Mae pryderon sylweddol yn parhau am y rhyngweithio rhwng yr heddlu a’r ddau fachgen cyn y gwrthdrawiad ac yn ddealladwy, mae eisiau ac angen atebion ar bobl.
“Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn parhau gyda’r ymchwiliad, a gwnaethant gadarnhau’n ddiweddar ei fod bron wedi’i gwblhau. Rwy’n disgwyl yn eiddgar at gael clywed eu canfyddiadau, a byddaf yn gwneud sylwadau pellach unwaith y byddaf yn gwybod.
“Rwy’n canolbwyntio ar wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod cymunedau Caerau a Threlái yn gallu ymddiried yn yr Heddlu, a bod â hyder mewn Plismona.“Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu newydd ei henwebu, byddaf yn sicrhau y caiff unrhyw gyfle i fyfyrio, i ddysgu, ac i wella, ei groesawu.
“Gobeithio bod trigolion Trelái yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn yr ymrwymiad cyfunol a disyfl i fynd i’r afael â rhai o’r materion sydd eisioes wedi bodoli, drwy gyflwyno Cynllun Cymunedau Caerau a Threlái a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd Sector Cyhoeddus Caerdydd.
“Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn rhan o’r Grŵp Llywio Cymuned, o dan gadeiryddiaeth Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i roi’r cynllun gweithredu ar waith yn llwyddiannus dros y 12 mis nesaf.
“Unwaith eto, mae fy meddwl a’m cydymdeimlad yn parhau i fod gyda theuluoedd Kyrees Sullivan a Harvey Evans, eu ffrindiau, a’r gymuned ehangach.”
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion