Wythnos ddiwethaf, roedd tîm y Comisiynydd yn bresennol yn yr AdFest, digwyddiad a drefnwyd gan Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.
Sefydliad yw Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ar gyfer bobl ag anabledd dysgu ac sydd hefyd yn cael eu harwain ganddynt. Maent yn anelu i sicrhau y gall pobl ag anableddau dysgu ddatblygu tuag at fwy o annibyniaeth ac ansawdd bywyd gwell y maent yn ei ddewis ar gyfer nhw eu hunain.
Mae’r digwyddiad eleni a elwir yn ‘Dyma Fi’ yn hyrwyddo popeth rydym yn ei ddathlu ac yn caru amdanom ni ein hunain, yn ogystal â chydnabod yr heriau a’r pethau nad ydym yn or-hoff ohonynt.
Rhoddodd y diwrnod gyfle am amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai o amgylch y rhwystrau a wynebir, y pethau sy’n gwneud bywyd yn haws, cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, teithiau personol, ffiniau’n ymwneud ag iechyd a rhyw.
Roedd tîm y Comisiynydd yn falch o fod yn rhan o’r digwyddiad ac yn ddiolchgar am y cyfle i siarad â’r rhai a oedd yn bresennol am rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a deall eu safbwyntiau a’u profiadau o blismona lleol. Rhoddodd y digwyddiad gyfle gwych i ni hefyd ddeall sut y gallwn barhau i ddatblygu ein deunyddiau Hawdd eu Deall er mwyn sicrhau bod ein gwybodaeth yn hygyrch i bobl ag anableddau dysgu.
Y Diweddariadau Diweddaraf
Arhoswch yn wybodus gyda'n tudalen newyddion sy'n cynnwys y diweddariadau diweddaraf ac unrhyw ddatblygiadau.'
Newyddion