Mae gan y tîm Ansawdd, Safonau a Chydymffurfiaeth amrywiaeth eang o gyfrifoldebau craidd yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Mae’r tîm yn gyfrifol am ymateb i ohebiaeth y cyhoedd ynghyd â rheoli amrywiaeth o gyfrifoldebau statudol gan gynnwys:

  • Diogelu Data
  • Rhyddid Gwybodaeth a chyhoeddi rhywfaint o Wybodaeth Benodedig
  • Ceisiadau am Hawl Mynediad i Bwnc
  • Rheoli cwynion, gan gynnwys y rheini mewn perthynas â’r Prif Gwnstabl
  • Cynnal adolygiad o gwynion yr heddlu yn unol â phroses statudol cwynion yr heddlu
  • Penodi aelodau panel ar gyfer gwrandawiadau camymddwyn yr heddlu, gweinyddu Tribiwnlysoedd Apeliadau’r Heddlu a’r broses fforffedu pensiwn statudol
  • Goruchwylio a chraffu gweithgarwch Adran Safonau proffesiynol Heddlu De Cymru