Sut mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn defnyddio gwybodaeth bersonol
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cadw ac yn prosesu gwybodaeth bersonol fel comisiynydd yr heddlu a throseddu er mwyn gwella atebolrwydd o fewn yr heddlu, a sicrhau bod ein heddlu lleol yn mynd i’r afael â materion sydd o bwys i’n cymuned drwy; reoli ein staff, cynnal ein cyfrifon a’n cofnodion, hyrwyddo a chyflwyno ein gwasanaethau a’n gweithgareddau, cynnal gwaith ymchwil a defnyddio systemau CCTV i atal troseddu.
Bydd Comisiynydd yr Heddlu a Troseddu yn cadw gwybodaeth yn ymwneud ag amrywiaeth o unigolion at y dibenion uchod. Gallai hyn hefyd gynnwys gwybodaeth a data sensitif.
Caiff yr holl wybodaeth bersonol ei gadw yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 a dim ond yn unol â’u dyletswyddau a’u rolau, mewn perthynas â’r dibenion uchod y gall unrhyw un o fewn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ddefnyddio’r wybodaeth.
Gyda phwy y gellir rhannu’r wybodaeth
Efallai bydd angen weithiau i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu rannu’r wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu gydag adrannau eraill o fewn swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddau, a gyda Heddlu De Cymru a sefydliadau allanol. Gall Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu hefyd rannu gwybodaeth ag asiantaethau partner, er mwyn cydymffurfio â chyfrifoldebau statudol, a phan fo angen i atal niwed i unigolyn. Pan fydd angen gwneud hyn, mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â phob agwedd ar Ddeddf Diogelu Data 1998.
Trosglwyddiadau
Efallai y bydd angen trosglwyddo gwybodaeth bersonol dramor weithiau. Pan fydd angen gwneud hyn, bydd gwybodaeth ond yn cael ei rhannu o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Bydd pob trosglwyddiad yn cael ei wneud gan gydymffurfio’n llawn â phob agwedd ar y ddeddf diogelu data.
Cael gafael ar eich gwybodaeth bersonol
Gallai fod gennych yr hawl hefyd i gael gafael ar wybodaeth amdanoch. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.