Mae’r datganiad hwn yn amlinellu’r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31ain Mawrth 2023 i ganfod, atal a rhoi sylw i gaethwasiaeth fodern ar draws yr heddlu a’i gadwyni cyflenwi. 

Beth yw Caethwasiaeth Fodern? 

Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd ac yn groes i hawliau dynol sylfaenol. Mae’n dod ar sawl ffurf, megis caethwasiaeth, caethwasanaeth, cam-fanteisio rhywiol, llafur gorfodol a masnachu pobl, a’r hyn sy’n gyffredin rhwng y rhain i gyd yw bod rhywun yn amddifadu rhyddid unigolyn er mwyn cam-fanteisio arno er budd personol neu fasnachol. 

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a’r Prif Gwnstabl yn ymroddedig i sicrhau nad oes unrhyw gaethwasiaeth fodern na masnachu pobl yn rhan o gadwyni cyflenwi’r heddlu neu’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag unrhyw weithgareddau y mae Heddlu De Cymru yn ymwneud â nhw. Mae polisïau, gweithdrefnau a’n gwaith i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern trwy weithgor yn dangos ein hymrwymiad i weithredu’n foesegol, gydag uniondeb ac i ganfod risgiau y gallwn weithio i’w lliniaru. 

Yn 2017, ymrwymodd comisiynwyr yr heddlu a throsedd a phrif gwnstabliaid y pedwar heddlu yng Nghymru i God Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru. Mae Heddlu De Cymru yn gwbl ymroddedig i frwydro yn erbyn arferion cyflogaeth anfoesegol neu anghyfreithlon mewn cadwyni cyflenwi. Mae cynllun gweithredu i gyflawni’r ymrwymiadau yn y Cod yn ategu’r ymroddiad hwn. 

Gellir rhannu ein dull o ganfod a mynd i’r afael â’r materion hyn yn bedwar prif faes:

Gorfodaeth – bydd Heddlu De Cymru’n sicrhau gorfodaeth ac yn defnyddio ein swyddogaethau cyflogi a phrynu nwyddau a gwasanaethau i wella’r gwaith o gasglu cudd- wybodaeth a sicrhau cydymffurfiaeth lawn â’r Cod Ymarfer, yn ogystal â gweithredu’n brydlon ar ôl derbyn gwybodaeth. 

Nod polisi Caethwasiaeth Fodern yr Heddlu, a bennwyd gan y tîm Prif Swyddogion ac a gymeradwywyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yw lleihau’r risg o niwed difrifol i ddioddefwyr a gwella eu diogelwch, iechyd a lles. 

Mae’r polisi’n amlinellu sut y bydd troseddau caethwasiaeth fodern yn cael eu trin a sut y bydd troseddwyr yn cael eu dwyn gerbron y llysoedd. Ar y cyd â Gwasanaeth Erlyn y Goron a chyrff eraill, byddwn yn ymdrechu i erlyn troseddwyr yn llwyddiannus, gyda’r nod o wella ymddiriedaeth a hyder dioddefwyr. 

Mae swyddogion rheng flaen yn derbyn hyfforddiant cadarn ac mae Arolygwyr yn gyfrifol am gyd-gysylltu’r ymateb i hysbysiadau a phresenoldeb mewn digwyddiadau, gan leihau’r risg uniongyrchol a diogelu tystiolaeth sydd ar gael. 

Caffael moesegol – hybu datblygu cadwyni cyflenwi moesegol wrth gyflenwi contractau ar gyfer y gwasanaeth heddlu yng Nghymru yn gyffredinol ac yn benodol yn Heddlu De Cymru. 

Cyflogaeth – dilyn arfer gorau a dangos ymrwymiad llwyr i welliant parhaus o fewn systemau a strwythurau Heddlu De Cymru, yn ogystal â gweithio gyda’r heddluoedd eraill yng Nghymru i ganfod a dileu unrhyw ffurf ar gam-fanteisio. 

Amgylchedd – byddwn yn annog y cyhoedd i hysbysu am unrhyw arwyddion o gam-fanteisio yn ei holl ffurfiau a gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys llywodraeth leol, y GIG a grwpiau gwirfoddol a chymunedol i godi ymwybyddiaeth o arwyddion cam-fanteisio a hysbysu amdanynt. Byddwn yn sicrhau bod ein holl staff – yn arbennig swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a staff yn ein Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus – yn gwbl ymwybodol o’r hyn y dylid edrych amdano a’r hyn y dylid ei wneud pan fyddant yn cael eu hysbysu am bryderon. 

Rydym yn cydnabod bod caethwasiaeth fodern yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’n ffiniau cenedlaethol a bod risgiau’n cynyddu gyda chadwyni cyflenwi cymhleth. 

Mae adolygiad dechreuol o’n cadwyni cyflenwi wedi dangos risg posibl o gaethwasiaeth fodern mewn amryw o gategorïau gan gynnwys y canlynol: 

  • gwybodaeth, cyfathrebu a thechnoleg 
  • adeiladu 
  • gwasanaethau glanhau a gwaredu gwastraff 
  • cynhyrchu iwnifformau 

Rydym yn sylweddoli y gall caethwasiaeth fodern ddigwydd, ai’i fod yn digwydd, mewn nifer o gategorïau eraill ac rydym yn mapio ein cadwyni cyflenwi yn defnyddio dull asesu risg i ganfod y meysydd y dylem fod yn eu blaenoriaethu yn rhan o’n hymateb ymarferol i risgiau caethwasiaeth fodern. 

Mae ymchwilio’n drwyadl i gadwyni cyflenwi’n waith cymhleth ond yn y 12 mis diwethaf rydym wedi cyhoeddi holiaduron asesu cyflenwyr i 19 o gyflenwyr eraill, gan ddod a chyfanswm yr holiaduron a gyhoeddwyd i 79, a rhoddwyd dosbarthiad i 63 o gyflenwyr. Nodwyd bod y cyflenwyr a ddewiswyd yn rhai risg uwch oherwydd y math o ddiwydiant, natur y gweithlu, lleoliad y cyflenwr, y math o nwyddau neu lefel ein gwariant, neu maent yn gyflenwyr yr ydym wedi dyfarnu contract iddynt yn ddiweddar a chyflwynwyd yr asesiad yn rhan o’n gwaith rheoli contract. 

Rydym wedi ymroi i rannu gwybodaeth er mwyn manteisio i’r eithaf ar ein hadnoddau. Trwy weithio gyda heddluoedd eraill a sefydliadau partner yng Nghymru ac yn lleol gallwn ymchwilio’n fwy trwyadl i gadwyni cyflenwi yn seiliedig ar y risg mwyaf o gam-fanteisio ar bobl. 

Byddwn yn parhau i weithio i godi ymwybyddiaeth o faterion caethwasiaeth fodern ledled ein cadwyn gyflenwi. Mae ein cynllun gweithredu’n cynnwys targed i asesu’r 100 uchaf o gyflenwyr ar draws Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent erbyn 2025 ac rydym ar y trywydd cywir i gyflawni hyn. 

Diwydrwydd Dyladwy ac Asesu Risg 

Mae Heddlu De Cymru wedi parhau i ddatblygu’r gwaith hwn i gyflawni’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt ac a gofnodwyd yn ein cynllun gweithredu lleol ar gyfer 2022-23. 

Polisi 

  • Mae’r Strategaeth Masnach a Chaffael Cydweithredol ar y Cyd 2020-2025 yn corffori polisi caffael cyfrifol. Mae’r polisi’n cynnwys ein hymroddiad a gweithgareddau i roi Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru ar waith, ac egwyddorion prynu moesegol. Yn ogystal, rydym yn cefnogi’r egwyddorion yn y ddogfen ‘Bluelight Commercial Responsible Procurement & Commissioning Strategy 
  • Mae caffael moesegol yn cael ei adlewyrchu yng Nghynllun Cyflawni’r Heddlu, sy’n adnabod caffael moesegol fel dull o greu amgylchedd mwy gwrthwynebus ar gyfer caethwasiaeth fodern. 
  • Mae ein polisi recriwtio’n adlewyrchu ein hymroddiad i ddatblygu’r strwythur cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant cyffredinol yn ein gweithlu a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. 
  • Mae ein Polisi Buddiannau Busnes yn adlewyrchu Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru. Rhaid i swyddogion a staff fod yn ymwybodol o’r Cod wrth gyflwyno cais am gymeradwyaeth i fuddiant busnes. 
  • Mae Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru yn eitem safonol ar agenda ein hundebau llafur yn awr. 
  • Mae Polisi Caethwasiaeth Fodern yr Heddlu ar gyfer swyddogion rheng flaen yn cael ei adolygu bob blwyddyn gan Uned Cuddwybodaeth a Throsedd Trefnedig yr Heddlu. 
  • Mae polisïau perthnasol eraill yn cynnwys Cod Moeseg y Coleg Plismona, ac rydym wedi lansio polisi Chwythu’r Chwiban Cymru Gyfan i rymuso staff i leisio amheuon am unrhyw arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol. 

Gweithdrefnau caffael 

  • Lle y bo’n briodol ac yn gymesur, rydym yn defnyddio Offeryn Gwerth Cymdeithasol Bluelight Commercial i ofyn i gynigwyr sut maent yn mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern yn eu sefydliadau a’u cadwyni cyflenwi. Rydym yn rhoi sgôr am werth cymdeithasol yn ein tendrau i ddangos sut rydym yn disgwyl i’n cyflenwyr adlewyrchu ein hymateb ac yn eu tro, gynorthwyo’r heddlu i gyflawni amrywiaeth o fentrau gwerth cymdeithasol. 
  • Rydym yn ymgorffori diwylliant o gyfrifoldeb ehangach yn yr heddlu i bawb sy’n ymwneud â chaffael nwyddau a gwasanaethau. 
  • Mae ein telerau ac amodau contract yn cynnwys yr hawl i ymchwilio a sefydlu atebolrwydd ac ymrwymiad gan y cynigydd llwyddiannus y bydd yn cwblhau holiadur asesu i sefydlu llinell sylfaen lle y bo’n briodol. 
  • Rydym yn parhau i rannu arfer gorau a’n gwaith asesu cyflenwyr gyda heddluoedd Cymru. 

Ystadegau Perfformiad o ran Taliadau 

  • Mae ystadegau perfformiad o ran talu anfonebau yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol ar wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn unol â’r gofyniad statudol. 

Asesu cyflenwyr a chadwyni cyflenwi presennol 

  • Rydym wedi symleiddio ein holiadur ar gyfer asesu cyflenwyr. 
  • Rydym yn gweithio gyda Bluelight Commercial i ehangu’r offeryn Netpositive i gynnwys caethwasiaeth fodern, arfer moesegol, cyfraniad cymdeithasol a’r argyfwng amgylcheddol mewn un offeryn i gyflenwyr. Bydd hwn yn disodli’r offeryn SAQ. Y nod yw rhannu’r gwaith a gwblhawyd gan Bluelight Commercial a heddluoedd deheuol Cymru a darparu offer i alluogi heddluoedd eraill i ehangu’r fenter hon yn genedlaethol. 
  • Mae Bluelight Commercial wedi ymroi i ymchwilio i gadwyni cyflenwi cyflenwyr sy’n gyffredin i sawl heddlu yn y categorïau Fflyd a TGCh. Bydd hyn yn dod â budd i bob heddlu ac yn gwneud defnydd da o adnoddau. 
  • Rydym wedi nodi isgontractwyr risg uchel, ac mewn achosion penodol fel yn y sector gwastraff, rydym wedi sicrhau bod ein cyflenwr haen un yn llifo i lawr yr asesiad moesegol o’r gadwyn gyflenwi i’r is-gontractwr i roi sicrwydd bod arferion gwaith teg yn cael eu defnyddio ar bob haen o’r gadwyn gyflenwi. Mae enghreifftiau yn y diwydiant gwastraff a’r diwydiant lletygarwch. 
  • Gallwn ddangos enghreifftiau cadarnhaol o’n cyflenwyr sy’n adlewyrchu ein cod caffael moesegol yn eu sefydliadau ac sydd wedi croesawu gwerth cymdeithasol, fel ein contractwyr ar gyfer gwasanaethau glanhau. 

 Hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth 

  • Cwblhawyd hyfforddiant diweddaru CIPS (Chartered Institute of Purchasing and Supply) blynyddol gan staff caffael strategol. 
  • Llwyddodd 66 o swyddogion a staff ledled heddluoedd De Cymru a Gwent (ffigwr Mawrth 2023) i gwblhau neu i gadw lle ar yr hyfforddiant ‘Fundamentals of Contract Management’ a ddarparwyd gan Bluelight Commercial. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys ymwybyddiaeth o gadwyni cyflenwi moesegol. 
  • Mae senarios cyfyng-gyngor moesegol yn cael eu rhannu ledled heddluoedd Cymru i wella ymwybyddiaeth o faterion moesegol ar draws yr heddluoedd. 
  • Roedd grŵp Gorchwyl a Gorffen Cadwyni Cyflenwi Moesegol yn cwrdd yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn, dan gadeiryddiaeth y Prif Swyddog Cyllid fel yr Hyrwyddwr Moesegol. Cafodd camau gweithredu eu symud ymlaen ar gyfer pob un o’r pedwar prif faes, Caffael Moesegol, Cyflogaeth, Amgylchedd a Gorfodaeth. 
  • Ym mis Mawrth 2023, cynhaliwyd adolygiad ar ôl cyflawni gan grŵp Cadwyni Cyflenwi Moesegol Heddlu De Cymru gydag arweinwyr y pedwar maes. Mae’r camau gweithredu ar gyfer pob maes yn rhan o fusnes fel arfer yn awr. 
  • Mae recriwtio, dyrchafu, cyfweld a phrosesau mewnol cysylltiedig yn annog arfer da o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. 
  • Mae cynllun cyfathrebu ar waith i sicrhau bod staff yn ymwybodol o’r llwybrau atgyfeirio mewnol ar gyfer tynnu sylw at bryderon ynghylch caethwasiaeth fodern a’u bod yn derbyn hyfforddiant ar y llwybrau hyn. 
  • Mae Grŵp Sicrwydd Ariannol ar y Cyd Heddluoedd Cymru a Grŵp Bwrdd Cydweithredol Cymru Gyfan yn derbyn adroddiadau am lwyddiant y gwaith yma gan Prif Swyddog Cyllid. 

Cyflog Byw Enillodd Heddlu De Cymru achrediad Cyflogwr Cyflog Byw ym mis Mawrth 2022. 

Mae’r Cyflog Byw yn gyfradd gwirfoddol fesul awr a bennir gan y Living Wage Foundation yn seiliedig ar gostau byw yn y DU. Mae’r Living Wage Foundation yn annog sefydliadau i ddod yn gyflogwyr Cyflog Byw achrededig. 

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a’r Prif Gwnstabl yn defnyddio’r gyfradd hon ar gyfer pob swyddog a staff. Anogir cyflenwyr i fabwysiadu’r Cyflog Byw a gallant ddangos tystiolaeth o hyn wrth ymateb i’r cwestiwn arfer gweithio teg mewn unrhyw wahoddiad i dendro perthnasol. 

Adroddiadau 

Bydd adroddiadau ar gynnydd yn cael eu rhoi i’r Prif Swyddog Cyllid fel yr Hyrwyddwr Gwrth- gaethwasiaeth a Moesegol ar gyfer Heddlu De Cymru. 

Hysbysu am Bryderon 

Mae gan y cyhoedd a staff yr un cyfrifoldeb i fod yn ymwybodol o achosion posibl o gaethwasiaeth fodern neu fusnes sy’n defnyddio llafur gorfodol. Os oes gennych unrhyw bryderon o’r fath, cysylltwch ag un o’r cyrff canlynol: 

Heddlu De Cymru: Ffôn 101 (neu 999 mewn argyfwng) Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern: Ffôn 0800 0121700 Crimestoppers: Ffôn 0800 555 111 

Llinell Gyfrinachol ar gyfer Pryderon (o fewn Heddlu De Cymru yn unig) Lawrlwythwch yr Ap ‘Unseen’ am ddim 

Mae’r Datganiad hwn wedi’i gymeradwyo gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a’r Prif Gwnstabl. Caiff ei adolygu a’i ddiweddaru’n flynyddol