Gwrandawiadau Camymddwyn yr Heddlu
Gwnaed newidiadau i’r broses o gynnal gwrandawiadau camymddwyn yr heddlu ar gyfer swyddogion yr heddlu o reng Uwch-arolygydd ac is a’u cyfansoddiad, o dan Reoliadau Ymddygiad yr Heddlu 2012 (fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau’r Heddlu (Ymddygiad) (Diwygio) 2015). Diben y newidiadau hyn oedd sicrhau gwell tryloywder ac annibyniaeth i wrandawiadau camymddwyn yr heddlu. Cyflwynwyd y broses o gynnal y gwrandawiadau hyn yn gyhoeddus ym mis Mai 2016 ac ers mis Ionawr 2016 mae gwrandawiadau o’r fath wedi cael eu cadeirio gan berson sydd wedi’i gymhwyso’n gyfreithiol a benodwyd gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru (y Comisiynwyr). Gwnaed newidiadau pellach i ddeddfwriaeth o 1 Chwefror 2020 o dan Ddeddf Plismona a Throseddu 2017, lle mae’n ofynnol i gadeiryddion sydd wedi’u cymhwyso’n gyfreithiol reoli gwrandawiadau camymddwyn yr heddlu o’r cychwyn.
Gwrandawiadau Camymddwyn yn Ne Cymru, Gwent, Dyfed Powys a Gogledd Cymru
Cynhelir gwrandawiadau yn ardaloedd heddlu De Cymru, Gwent, Dyfed Powys a Gogledd Cymru. Cynhelir gwrandawiadau gan Banel Camymddwyn yr Heddlu (y panel) sy’n cynnwys un cadeirydd sydd wedi’i gymhwyso’n gyfreithiol, un swyddog yr heddlu sydd yn rheng uwch-arolygydd o leiaf ac aelod annibynnol. Mae’r Comisiynwyr yn cynnal rhestr o gadeiryddion sydd wedi’u cymhwyso’n gyfreithiol ac aelodau annibynnol ac yn eu penodi drwy ddefnyddio ‘proses y rhes cabiau’. Cliciwch yma i weld y broses benodi a ddefnyddir yng Nghymru.
Gellir dod o hyd i fanylion am wrandawiadau camymddwyn ar wefan Heddlu De Cymru –Gwrandawiadau Camymddygiad | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk/cy)
Tribiwnlysoedd Apeliadau’r Heddlu
Mae Tribiwnlysoedd Apeliadau’r Heddlu yn gwrando apeliadau yn erbyn canfyddiadau o gamymddwyn difrifol (mwyaf difrifol) gan swyddogion yr heddlu neu gwnstabliaid gwirfoddol. Caiff Tribiwnlysoedd Apeliadau’r Heddlu eu llywodraethu gan Reolau Tribiwnlysoedd Apeliadau’r Heddlu 2020. Gall aelodau o’r cyhoedd bellach fod yn bresennol mewn gwrandawiadau apelio fel arsylwyr ond ni chaniateir iddynt gymryd rhan yn y gweithrediadau; fodd bynnag, ceidw Cadeirydd y Tribiwnlys yr hawl i gynnal yr holl Dribiwnlys neu ran ohono yn breifat.
Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn gyfrifol am hwyluso’r gwrandawiad sy’n cynnwys penodi’r Cadeirydd i gynnal y gweithrediadau. Caiff y Cadeirydd ei benodi o Gofrestr o Gadeiryddion sydd wedi’u Cymhwyso’n Gyfreithiol a gedwir gan y Swyddfa Gartref.
Bydd manylion am Dribiwnlysoedd Apeliadau’r Heddlu sydd i ddod yn cael eu cyhoeddi ar wefan Heddlu De Cymru.
Dogfennau Defnyddiol
Gellir dod o hyd i ragor o ddogfennau a gwybodaeth yn ein hadran adnoddau
Adnoddau