Teitl Swydd: Cyfarwyddwr Perfformiad, Sicrwydd a Goruchwylio (Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru)
Gradd: L7.1 £63,594 – £69,171
Lleoliad: Pencadlys Heddlu De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr
Oriau: 37
Lefel Fetio Ofynnol: MV/SC
Y Rôl a Chyfrifoldebau
Rydym yn chwilio am arweinydd rhagorol i ymuno â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu fel Cyfarwyddwr Perfformiad, Sicrwydd a Goruchwylio a fydd yn adrodd i’r Prif Weithredwr. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â’r swyddfa yn dilyn ethol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu newydd, Emma Wools. Bydd y rôl hollbwysig hon yn llywio rhagoriaeth ym mherfformiad ac atebolrwydd yr heddlu a darpariaeth gwasanaeth ledled Heddlu De Cymru, gan ddirprwyo ar gyfer y Prif Weithredwr pan fo angen.
Byddwch yn helpu i ddarparu arweinyddiaeth strategol wrth fonitro a gwerthuso perfformiad yr heddlu yn erbyn blaenoriaethau ac amcanion y Comisiynydd, yn unol â Chynllun Troseddau a Chyfiawnder yr Heddlu a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Sicrhau bod dull effeithiol ar waith ar gyfer craffu ar weithrediadau’r heddlu a’r broses o ddarparu gwasanaeth a chynnal safonau uchel o atebolrwydd. Byddwch yn goruchwylio’r gwaith o reoli cwynion a chyfrifoldebau statudol, gan sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol.
Fel Dirprwy ar gyfer y Prif Weithredwr, byddwch yn darparu cymorth arwain uwch ar gyfer holl weithrediadau Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gan gynnwys arwain y broses o ddylunio a chyflawni systemau adrodd ar berfformiad sy’n hyrwyddo tryloywder a hyder y cyhoedd.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar brofiad amlwg o reoli perfformiad a goruchwyliaeth strategol o fewn sefydliad sector cyhoeddus cymhleth. Rhaid i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda’r gallu i ddylanwadu ar bob lefel a rheoli cydberthnasau â rhanddeiliaid mewn modd sensitif.
Byddai meddu ar ddealltwriaeth gynhwysfawr o brosesau llywodraethu’r heddlu, fframweithiau atebolrwydd a deddfwriaeth berthnasol o fantais.
Yr Hyn Rydym yn ei Gynnig:
- Cyflog cystadleuol yn unol â lefel uwch y rôl
- Cynllun pensiwn rhagorol
- Cyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol
- Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddiogelwch y cyhoedd a hyder y gymuned
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol
Mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i sicrhau y caiff gwasanaethau cyhoeddus a diogelwch o’r safon uchaf eu cyflawni ar gyfer ein cymunedau amrywiol. Gan weithio o fewn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth sicrhau bod yr heddlu yn bodloni ei amcanion strategol ac yn cynnal hyder y cyhoedd drwy oruchwylio’n effeithiol a gwella’n barhaus.
Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ymrwymedig i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob ymgeisydd cymwys ni waeth beth fo’i gefndir.
I gael rhagor o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Lee Jones (Prif Weithredwr) ar 01656 869366, neu e-bostiwch hrcommissioner@south-wales.police.uk.
I wneud cais, dylech gyflwyno eich CV a llythyr eglurhaol cynhwysfawr i hrcommissioner@south-wales.police.uk yn nodi sut rydych yn bodloni gofynion y rôl hon erbyn hanner nos dydd Iau 20 Chwefror 2025. Dylai eich cais ddangos eich profiad o ran rheoli perfformiad, goruchwyliaeth strategol ac arweinyddiaeth o fewn sefydliadau cymhleth. Dylech sicrhau nad yw eich llythyr eglurhaol yn fwy na dwy ochr o A4.