Teitl Swydd: Cyfarwyddwr Partneriaethau, Cymunedau ac Atal Troseddau 

Gradd: PO7 £59,715 – £63,594

Lleoliad: Pencadlys Heddlu De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr

Oriau: 37

Lefel Fetio Ofynnol: MV/SC

Y Rôl a Chyfrifoldebau

Rydym yn chwilio am arweinydd dynamig a chydweithredol i ymuno â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu fel Cyfarwyddwr Partneriaethau, Cymunedau ac Atal Troseddau. Yn y rôl hollbwysig hon, byddwch yn adrodd i’r Prif Weithredwr, yn llywio’r gwaith o feithrin a chynnal partneriaethau strategol ar draws nifer o sectorau, gan lywio dulliau arloesol i atal troseddau a chadw cymunedau’n ddiogel ledled De Cymru.

Yn dilyn ethol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu newydd ar gyfer De Cymru, Emma Wools, mae’r rôl hon yn cynnig cyfle rhagorol i lywio dyfodol y gwaith o atal troseddau a diogelwch cymunedol yn Ne Cymru. Byddwch yn allweddol wrth ddatblygu datrysiadau arloesol yn seiliedig ar bartneriaeth i heriau cymdeithasol cymhleth, gan weithio ar draws ffiniau sefydliadol i greu cymunedau mwy diogel a gwydn.

Byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaethau atal troseddau a lleihau niwed amlasiantaeth ac yn goruchwylio’r gwaith o reoli a chyflawni rhaglenni allweddol wedi’u hariannu drwy grantiau.

Mae angen i chi feddu ar y gallu i feithrin a chynnal partneriaethau strategol ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ar gyfer y rôl. Dylunio a gweithredu mentrau diogelwch cymunedol sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddau, ar y cyd â dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn atal troseddau a sicrhau diogelwch cymunedol.

Mae’r gallu i reoli cydberthnasau ag awdurdodau lleol, sefydliadau cymunedol, a phartneriaid busnes yn hanfodol, gan gynnwys gwerthuso effeithiolrwydd mentrau’r bartneriaeth a’r rhaglenni.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gallu dangos y sgiliau canlynol:

  • Profiad helaeth o ddatblygu partneriaeth a rheoli rhanddeiliaid
  • Profiad amlwg o ddylunio a gweithredu mentrau cymunedol llwyddiannus
  • Gallu amlwg i reoli rhaglenni cymhleth wedi’u hariannu drwy grantiau
  • Profiad o ddatblygu a gweithredu strategaethau atal troseddau
  • Galluoedd arwain amlwg wrth reoli timau a phrosiectau amrywiol
  • Profiad o reoli cyllid a dyrannu adnoddau

Yr Hyn Rydym yn ei Gynnig:

  • Cyflog cystadleuol yn unol â lefel uwch y rôl
  • Cynllun pensiwn rhagorol
  • Cyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol
  • Trefniadau gweithio hyblyg
  • Amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol

Mae’r rôl hefyd yn gofyn am y canlynol:

  • Teithio ledled De Cymru yn rheolaidd
  • Oriau gwaith hyblyg er mwyn mynychu cyfarfodydd partneriaeth a digwyddiadau cymunedol
  • Ymrwymiad cryf i ymgysylltu â’r gymuned a gweithio mewn partneriaeth
  • Y gallu i weithio ar draws ffiniau sefydliadol a diwylliannau

Mae Heddlu De Cymru a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ymrwymedig i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob ymgeisydd cymwys ni waeth beth fo’i gefndir.

I gael rhagor o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Lee Jones (Prif Weithredwr) ar 01656 869366, neu e-bostiwch hrcommissioner@south-wales.police.uk.

I wneud cais, dylech gyflwyno CV cynhwysfawr a llythyr eglurhaol manwl i hrcommissioner@south-wales.police.uk yn nodi sut rydych yn bodloni gofynion y rôl hon erbyn hanner nos dydd Iau 20 Chwefror 2025. Dylech sicrhau nad yw eich llythyr eglurhaol yn fwy na dwy ochr o A4.