Teitl Swydd: Cyfarwyddwr Cyfiawnder (Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru)
Gradd: PO7 £59,715 – £63,594
Lleoliad: Pencadlys Heddlu De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr
Oriau: 37
Lefel Fetio Ofynnol: MV/SC
Y Rôl a Chyfrifoldebau
Rydym yn chwilio am arweinydd rhagorol i ymuno â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu fel Cyfarwyddwr Cyfiawnder. Bydd y rôl hollbwysig hon yn llywio’r gwaith o ddatblygu a gwella’r system Cyfiawnder Troseddol yn Ne Cymru, gan sicrhau bod partneriaid yn y maes Cyfiawnder Troseddol yn cydweithio’n effeithiol a sicrhau bod cyfrifoldebau cyfreithiol a chyllid y Comisiynydd yn cael eu cyflawni. Mae’n gyfnod cyffrous iawn i ymuno â’r swyddfa yn dilyn ethol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu newydd, Emma Wools. Bydd y rôl yn adrodd i Brif Weithredwr Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Fel Cyfarwyddwr Cyfiawnder, byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu mentrau Cyfiawnder Troseddol yn strategol ledled De Cymru, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r Comisiynydd yng Nghynllun yr Heddlu, Troseddau a Chyfiawnder newydd De Cymru. Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle unigryw i lywio dyfodol gwasanaethau cyfiawnder troseddol yn Ne Cymru, gan weithio ar draws ffiniau sefydliadol i greu dulliau mwy effeithiol ac integredig o ran cyfiawnder, adsefydlu a chymorth i ddioddefwyr.
Bydd hyn yn cynnwys meithrin a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol â phartneriaid allweddol, gan gynnwys llysoedd, gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, gwasanaethau adsefydlu, a sefydliadu a gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr.
Byddwch yn goruchwylio cyfrifoldebau statudol y Comisiynydd mewn perthynas ag asiantaethau Cyfiawnder Troseddol a gwaith partneriaeth sy’n berthnasol ar gyfer y maes hwn, gan ddatblygu a gweithredu strategaethau i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y system cyfiawnder troseddol leol.
Mae’r rôl yn cynnwys sicrhau bod gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a thystion yn cael eu cydlynu’n effeithiol, yn ogystal â monitro perfformiad, goruchwylio a rhoi cyngor.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gallu dangos y sgiliau canlynol:
- Profiad o ran gweithrediadau a gweithio mewn partneriaeth o fewn y system Cyfiawnder Troseddol
- Dealltwriaeth gref o bolisi, deddfwriaeth a phrosesau diwygio’r system Cyfiawnder Troseddol
- Profiad amlwg o ddatblygu’r broses o weithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus a rheoli rhanddeiliaid
- Rhagori mewn cynllunio strategol a datblygu polisïau
- Galluoedd arwain cryf gyda phrofiad o reoli mentrau amlasiantaeth
Yr Hyn Rydym yn ei Gynnig:
- Cyflog cystadleuol sy’n adlewyrchu lefel uwch a chyfrifoldebau’r rôl
- Cynllun pensiwn rhagorol
- Cyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol
- Cyfle i wneud gwahaniaeth sylweddol i’r system Cyfiawnder Troseddol
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol
Mae Heddlu De Cymru a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ymrwymedig i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob ymgeisydd cymwys ni waeth beth fo’i gefndir. Mae’r rôl yn gofyn am weithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid a gall fod angen teithio ledled De Cymru ac yn genedlaethol o bryd i’w gilydd. Mae’n bosibl y bydd angen i chi weithio gyda’r nos ac ar y penwythnos er mwyn mynychu cyfarfodydd partneriaeth a digwyddiadau cymunedol.
I gael rhagor o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Lee Jones (Prif Weithredwr) ar 01656 869366, neu e-bostiwch hrcommissioner@south-wales.police.uk.
I wneud cais, dylech gyflwyno CV cynhwysfawr a llythyr eglurhaol manwl i hrcommissioner@south-wales.police.uk yn nodi sut rydych yn bodloni gofynion y rôl hon erbyn hanner nos dydd Iau 20 Chwefror 2025. Dylech sicrhau nad yw eich llythyr eglurhaol yn fwy na dwy ochr o A4.