Crynodeb
Mae gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru y pwerau i ddyfarnu grantiau trosedd ac anhrefn i unrhyw sefydliad a phrosiectau sydd, ym marn Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn sicrhau, neu’n cyfrannu at sicrhau, leihad mewn troseddau ac anhrefn yn
ardal yr heddlu.
Hefyd, mae ganddo’r pwerau i ddarparu neu drefnu darparu’r canlynol:
a) Gwasanaethau a fydd, ym marn y Comisiynydd, yn sicrhau, neu’n cyfrannu at sicrhau, leihad mewn troseddau ac anhrefn yn ardal yr heddlu
b) Gwasanaethau y mae’r Comisiynydd yn bwriadu iddynt helpu dioddefwyr, tystion neu bobl eraill y mae troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi effeithio arnynt
c) Gwasanaethau o fath a nodir mewn gorchymyn a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Wrth drefnu darparu gwasanaeth, gall y Comisiynydd roi grantiau mewn cysylltiad â’r trefniant. Gall grant fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau (gan gynnwys amodau sy’n ymwneud ag ad-daliadau) y mae’r Comisiynydd yn eu hystyried yn briodol.
Y Comisiynydd sy’n gyfrifol am arian cyhoeddus ac am ddosbarthu’r arian hwn i’w reoli yn unol â deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd, y Deyrnas Unedig a Chymru, safonau priodol a threfniadau llywodraethu mewnol Heddlu De Cymru.
Mae’r ddogfen hon yn nodi’r ffordd y bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn arfer y pwerau a’r cyfrifoldebau hynny.