Mynd i’r Afael a Thrais yn Erbyn Menywod a Merched: Strategaeth ar y Cyd 2019 -2024

Crynodeb

Mynd i’r Afael a Thrais yn Erbyn Menywod a Merched: Strategaeth ar y Cyd 2019 – 2024, wedi’i datblygu ar y cyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a’r Prif Gwnstabl gyda Phartneriaid.

Mae’r gwerthoedd a’r egwyddorion a restrir isod yn ategu ein dyhead ar y cyd i weithio mewn partneriaeth tuag at ddileu pob math o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Maent wedi cael eu cynllunio i ddarparu’r sylfaen ar gyfer plismona a gweithio mewn partneriaeth wrth geisio datblygu a
gweithredu polisïau, rhaglenni ac arferion priodol. Ystyrir bod pob gwerth cyn bwysiced â’i gilydd, ac wedi’i gymeradwyo gan bartneriaid, yn cynnwys pobl â phrofiad fel dioddefwyr a goroeswyr:

1 Mae Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn achosion sylfaenol o dorri hawliau dynol, ac ni fydd unrhyw gymuned na diwylliant yn goddef hyn.
2 Mae’r gymuned gyfan yn gyfrifol am atal trais a chamdriniaeth, ac mae angen dealltwriaeth ar y cyd o’r materion ynghyd â’r penderfyniad ar y cyd i ddatrys y broblem a’i hachosion.
3 Diogelwch a llesiant y sawl y mae Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn effeithio arnynt fydd blaenoriaeth gyntaf unrhyw ymateb.
4 Lleisiau dioddefwyr, goroeswyr a chymunedau fydd wrth wraidd y broses o lywio’r gwaith a wnawn.
5 Ni fydd dioddefwyr na goroeswyr yn gyfrifol am ymddygiad y troseddwr.
6 Mae plant yn unigryw o ran eu tueddiadau i wynebu trais a chamdriniaeth, a gwneir pob ymgais i’w diogelu o niwed yn y byrdymor a’r hirdymor.
7 Caiff troseddwyr Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol eu dwyn i gyfrif am eu hymddygiad ac eir i’r afael â gweithredoedd sy’n gyfystyr â throsedd yn briodol.
8 Bydd cydweithio yn Heddlu De Cymru yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol ac yn eu hadlewyrchu: Natur agored, her adeiladol, gwneud penderfyniadau clir ac effeithiol.
9 Byddwn yn ceisio rhannu’r hyn a ddysgwn a chreu sylfaen dystiolaeth er mwyn llywio penderfyniadau a wneir, buddsoddi yn y broses o werthuso arloesedd a cheisio ffyrdd o ddatblygu darpariaeth arbenigol gynaliadwy ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr a’u teuluoedd.
10 Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn sicrhau ein bod yn adnabod y cysylltiadau rhwng ffrydiau gwaith eraill a Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Mynd i’r Afael a Thrais yn Erbyn Menywod a Merched: Strategaeth ar y Cyd 2019 – 2024 1.50 MB