Crynodeb
SMae Heddlu De Cymru yn rhedeg Cynllun Cysgodi sy’n ein helpu i wneud y defnydd gorau o Stopio a Chwilio drwy roi cyfleoedd i’r gymuned fynd ar batrôl gyda swyddogion yr heddlu am un shifft.
Mae’r Cynllun Cysgodi Stopio a Chwilio yn gyfle i fwrw golwg fanwl ar ein gwaith, sy’n digwydd 24/7, a siarad â swyddogion a staff am yr hyn sy’n digwydd yn eich cymdogaeth.
Nod y Cynllun yw cael mwy o dryloywder a chyfraniad gan y gymuned drwy roi cyfle i aelodau o’r cyhoedd gysgodi swyddogion yr heddlu ar adegau pan allai fod angen iddynt ddefnyddio eu pwerau Stopio a Chwilio.
Cardiff & Vale – CARDIFFVALE-OSU@south-wales.police.uk
Mid Glamorgan – MidGlam-OSU@south-wales.police.uk
Swansea and Neath Port Talbot – GM-SWANSEA-NEATH-PORT-TALBOT-OSU@south-wales.police.uk
Specialist Ops Team – OSS-OSU@south-wales.police.uk