Crynodeb
Sut y gallaf wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth
Er mwyn cyflwyno Cais Gwrthrych am Wybodaeth dilys i gael eich data personol i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, gwnewch y canlynol:
- Llenwch y ffurflen gais sydd i’w gweld ar waelod y dudalen honCais Gwrthrych Am Wybodaeth
- Darparu llungopïau o’ch dogfennaeth adnabod – gan ddarparu eich enw, cyfeiriad presennol a’ch dyddiad geni
- Dychwelwch y cais i swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn y cyfeiriad isod.
Unwaith y ceir Cais Gwrthrych am Wybodaeth dilys, mae dyletswydd gyfreithiol ar swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i ymateb i’r ymgeisydd o fewn 1 mis.
Manylion Cyswllt
Anfonwch eich cais wedi’i gwblhau i: Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru Swyddog Diogelu Data, Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SU
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â pha wybodaeth rydych yn gymwys i’w chael cyn cyflwyno’ch cais, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data yn swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar 01656 869366.