Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yn derbyn cyflog o £88,602.  Mae’r swm hwn yn cael ei bennu gan yr Ysgrifennydd Cartref, yn seiliedig ar argymhellion y Corff Adolygu ar Uwch Gyflogau. Mae hefyd yn ofynnol i ni gyhoeddi manylion pob aelod o staff uwch sy’n ennill dros £58,200, ar hyn o bryd y rolau hyn yw:

  • Prif Weithredwr a Swyddog Monitro
  • Prif Swyddog Cyllid
  • Pennaeth Diogelwch Cymunedol ac Atal Trais
  • Rheolwr Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cyfiawnder Troseddol (Cymru Gyfan)

Demograffeg Tîm:

Cyfanswm Staff: 60 (Gan gynnwys secondiadau mewnol, yn eithrio secondiadau allanol)
Rhyw: Benyw – 46, Gwryw – 14
Staff ag anabledd: 8
Aelodau staff o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig: 5

Dogfennau Defnyddiol

Archwiliwch ein tudalen adnoddau diweddaraf i gael y wybodaeth ddiweddaraf a mewnwelediadau gwerthfawr.

Adnoddau

Strwythur Staffio